SWGfL Wales
Tachwedd 2015   |   Follow us on Twitter
Y newyddion diweddaraf am e-Ddiogelwch gan SWGfL                    
Helo a chroeso i rifyn mis Tachwedd o'n cylchlythyr.
Gyda hanner tymor y tu cefn i ni, rydyn ni'n edrych ymlaen at y Nadolig erbyn hyn, a'r holl gyffro a'r straen! mae hynny'n ei olygu weithiau.  
Mae'r mis yma'n fis Gwrth-fwlio ac felly mae gennym ni adnoddau Seibrfwlio i ysgolion yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio eich bod chi wedi gweld ein cystadleuaeth ap ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2016 - sy'n galw ar bobl ifanc rhwng 5 a 18 oed i greu eu ap eu hunain.  Ond brysiwch - mae'r dyddiad cau ar 30 o Dachwedd yn agosáu!
Mae llawer o wybodaeth newydd am y Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a sut gallwch chi gymryd rhan ar y diwrnod a'i gefnogi. Gobeithio y bydd y rhifyn yma'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i chi. I rannu eich adborth, anfonwch e-bost atom ni ar esafety@swgfl.org.uk



 
Ydych chi wedi clywed am ein cystadleuaeth ap ar gyfer y Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel? Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 30 Tachwedd 2015!
 Y mis yma rydyn ni wedi ychwanegu llawer o wybodaeth newydd ar Hwb am y Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd  yn Fwy Diogel - negeseuon a gwybodaeth allweddol a hefyd sut mae cofrestru fel cefnogwr.
 Ar gyfer ein cystadleuaeth ap i bobl ifanc rhwng 5 a 18 oed mae gennym ni fwy am y briff, rhai syniadau i ysbrydoli  pobl ifanc, adnoddau iddynt eu defnyddio a chyngor gan ein beirniaid. A chofiwch - rhaid cyflwyno pob cais  erbyn 30 Tachwedd
Mis o dorri record - 100 ysgol newydd wedi cofrestru ar gyfer 360 Cymru
360 safe Cymru yw'r adnodd newydd sydd wedi'i ddatblygu gennym mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel bod ysgolion yng Nghymru'n gallu hunanadolygu eu darpariaeth e-Ddiogelwch a gweithio yn unol â chynllun gwella. Rydyn ni'n falch iawn o rannu bod yr adnodd, ers ei lansio yng Nghymru ym mis Hydref 2014, wedi denu mwy nag 800 o ysgolion cofrestredig ac ym mis Hydref torrwyd pob record gyda 100 o gofrestriadau newydd! Ceir mynediad o'r bar du ar y top ar ôl mewngofnodi i Hwb - cofrestrwch eich ysgol heddiw. 
Hyfforddiant e-Ddiogelwch AM DDIM ar droed i ysgolion!
Mae SWGfL, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cynnig hyfforddiant deuddydd ar e-Ddiogelwch am ddim drwy bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Rydyn ni wedi cynnal hyfforddiant yng Nghastell-nedd Port Talbot eisoes, yn Awdurdodau Lleol CSC, Torfaen, Sir y Fflint ac Abertawe, Mae'r hyfforddiant ar gael i ysgolion a thimau diogelu ALl. Peidiwch â cholli'r cyfle yma! HoIwch eich ALl beth yw'r dyddiadau ac archebwch eich lle nawr!
Pwnc Llythrennedd Digidol ym mis Tachwedd - seibrfwlio

Ein pwnc Llythrennedd Digidol ar gyfer mis Tachwedd yw Seibrfwlio. Gan ei bod yn Wythnos Gwrth-Fwlio y mis yma (16-20 Tach) rydym wedi creu 4 rhestr chwarae ar Hwb i ysgolion eu defnyddio i gynnal sesiynau ar seibrfwlio. Mae'r rhain yn seiliedig ar yr Adnodd Llythrennedd Digidol ar gyfer Cymru.  Ceir Rhestr Chwarae Gyflwyniadol, Cynradd, Uwchradd, ac un gydag adnoddau ar gyfer rhieni a gofalwyr. I'w canfod, chwiliwch am 'seibrfwlio' ar ôl mewngofnodi i Hwb. 
Astudiaeth achos: Ysgol Gyfun Sandfields ym Mhort Talbot 


Mae Paul Watkins o Ysgol Gyfun Sandfields ym Mhort Talbot yn rhannu profiad ei ysgol o dreialu'r
Adnodd Llythrennedd Digidol a'r effaith a'r newidiadau sydd wedi'u creu.  I rannu eich profiad o ddefnyddio'r adnodd 360 safe Cymru ar Hwb neu'r Adnodd Llythrennedd Digidol, anfonwch e-bost atom ar esafety@swgfl.org.uk
Cofiwch anfon y wybodaeth ymlaen a thanysgrifio er mwyn cael rhagor o wybodaeth am e-Ddiogelwch ar >Barth e-Ddiogelwch Hwb . Mae'r cylchlythyr hwn yn rhan o'n partneriaeth barhaus â Llywodraeth Cymru i greu mwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i e-Ddiogelwch mewn ysgolion ledled Cymru. 

Yn gywir
Tîm e-Ddiogelwch SWGfL