SWGfL Wales
Medi 2015   |     Follow us on Twitter
Newyddion e-Ddiogelwch diweddaraf SWGfL
Croeso i gyfrol mis Medi.
Gobeithio i chi fwynhau gwyliau'r haf! Mae ein cylchlythyr misol yn llawn o newyddion, cyngor a gwybodaeth e-Ddiogelwch a'n gobaith ydy parhau i gefnogi ysgolion yng Nghymru i godi'u hymwybyddiaeth e-Ddiogelwch ac i wella polisïau ac ymarferiadau e-Ddiogelwch er mwyn amddiffyn pobl ifanc ar-lein a chreu defnyddwyr clyfar a chyfrifol o dechnolegau digidol.

Rydym yn croesawu sylwadau ac adborth hefyd - felly cysylltwch ar esafety@swgfl.org.uk
Ydych chi'n barod i Ddychwelyd i'r Ysgol?
Rydym wedi creu nifer o adnoddau fydd yn helpu chi i ddychwelyd i'ch ysgol a llwydo gyda e-Ddiogelwch i bawb. Edrychwch ar ein hawgrymiadau gorau i gychwyn:
Hyfforddiant e-Ddiogelwch ar gael i'ch ysgol trwy bob Awdurdod Lleol
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae SWGfL yn cynnig 2 ddiwrnod o hyfforddiant e-Ddiogelwch am ddim trwy bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae'r hyfforddiant yn agored i ysgolion a thimau diogelu ALl. Chwiliwch am ddyddiadau eich ALl a chofrestrwch nawr!
Cystadleuaeth Apiau Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach - yn agored nawr!


Mae cystadleuaeth apiau wedi'i lansio yng Nghymru ar gyfer Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach! Rydym yn galw ar bobl ifanc mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd i greu apiau sydd yn helpu i greu rhyngrwyd gwell! Y dyddiad cau ydy 30 Tachwedd a gwobrwyir yr apiau buddugol ar Ddiwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach - 9 Chwefror 2016 - a byddant yn cael ei lansio ar storfeydd Apple a Google.

Ein pwnc Llythrennedd Digidol - Preifatrwydd a Diogelwch Gwybodaeth
















Y mis yma ar Hwb, bydd ysgolion yn darganfod rhestrau chwarae - Cyflwyniad, Cynradd ac Uwchradd, ac adnodd Rhieni - casgliad o adnoddau ar y pwnc yma. Chwiliwch am y term 'preifatrwydd' ar ôl mewngofnodi i Hwb.
 > Rhestr Chwarae Cyflwyniad (cysylltiadau Cynradd ac Uwchradd)
Cofiwch gofrestru a gyrru'r cylchlythyr yma ymlaen. Cofiwch hefyd bod gwybodaeth bellach ar e-Ddiogelwch i'w gael ar Barth e-Ddiogelwch Hwb.

Yn gywir

Tîm e-Ddiogelwch SWGfL