Pedwar trên, pedwar siwrne car, dros 60 o athrawon a phitsa - fy anturiaethau yn CwrddHwb: Yr Wyddgrug
Am gyfle gwych oedd cael cyfarfod gyda chymaint o bobl ymroddedig a diddorol yn CwrddHwb: Yr Wyddgrug yn ddiweddar. Mae'r digwyddiadau CwrddHwb wedi cael eu disgrifio i mi fel gwibfachu, ble mae athrawon yn mynd mewn cylch o gwmpas y byrddau ac yn cyfarfod y cyflwynwyr mewn grwpiau bach (tua 10 i bob grwp). Dwi ddim wedi bod i ddigwyddiad gwibfachu o'r blaen, ond os yw hyn yn debyg, yna mae'n rhaid ei fod yn flinedig iawn!
Yn amlwg, roedd fy sesiwn yn ymwneud â e-Ddiogelwch. Nid oedd yn drafodaeth ganolbwyntiedig, ond yn hytrach yn fwrlwm o ffeithiau, ffigyrau, taflenni a hwyl. Hoffwn feddwl bod yr athrawon wedi dysgu rhywbeth newydd yn y 10 munud treuliwyd gyda fi. O 360 degree safe Cymru i'r adnodd Llythrennedd Digidol, neu fy hanesion am gyfrifon personadiad ysgolion, trafodwyd popeth.
Ond i fod o ddifrif am funud - mae'r pethau yma yn wir bwysig. Mewn byd ble mae plant a phobl ifanc yn treulio'u bywydau ar-lein, mae'n fwy pwysig nag erioed i'w haddysgu am y peryglon a'r cyfleoedd sydd ynghlwm â'r byd yma. Mae'n hanfodol i helpu'ch disgyblion i ddeall bod y pethau maen nhw'n ei wneud a'i ddweud ar-lein yn gallu cael effaith ar eu cyflogadwyedd, ac i sicrhau bod ein disgyblion yn cyfrannu mewn ffordd bositif yn economaidd ac yn gymdeithasol. Nid yn unig hynny, ond mae'n eu cyfarparu nhw â'r sgiliau i adnabod a herio seibrfwlio yn bositif a gallai hyn eu helpu nhw i amddiffyn eu hunain yn erbyn hyn, yn lleihau'r perygl o niwed neu hunan laddiad.
Felly cofiwch ymweld â hwb.cymru.gov.uk, yn y parth e-Ddiogelwch (ar gael am ddim a heb angen mewngofnodi) byddwch yn darganfod cysylltiadau i adnoddau defnyddiol gwych o ansawdd uchel. Ar y prif dudalen cartref, ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch glicio ar y cyswllt i 360 degree safe Cymru a chychwyn ar adolygu polisi ac ymarferiad e-Ddiogelwch eich ysgol. Felly cerwch amdani, byddwch yn cael eich synnu pa mor eang ydyw. A chofiwch fod ESTYN yn arolygu e-Ddiogelwch - mae'n rhan o'r cylch gwaith diogelu - mae hyn yn ei wneud yn fater ysgol gyfan. Nid oes dim yn fwy pwysig nag diogelwch eich disgyblion.
Dwi'n bwriadu bod yn y sesiynau CwrddHwb eraill ledled Cymru a byddwn yn mynychu'r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd (24 Mehefin, rhag i chi anghofio).
Gyda llaw - os ydych chi'n digwydd cyfarfod â fi (ac rydych chi wedi darllen mor bell â hyn) - cofiwch ddweud #PitsaBarbiciwSbeislyd ac fe gewch chi anrheg fach am ddarllen hwn i gyd ac fe ddywedaf stori wrthych chi!
Andrew Williams, Ymgynghorwr Diogelwch Ar-lein, South West Grid for Learning