SWGfL Logo   
Chwefror 2015

Follow us on Twitter  
Prosiect yn cael ei redeg gan South West Grid for Learning gyda Llywodraeth Cymru i wella diogelwch y rhyngrwyd yng Nghymru trwy addysg a chefnogaeth i ysgolion

Gobeithio bod eich Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach wedi bod yn llwyddiant ac wedi'i ddilyn gyda hanner tymor ymlaciol! Dyma'n cynigion i chi am y mis yma:

 

  1. Digwyddiadau Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach yng Nghymru
  2. Parth e-Ddiogelwch ar Hwb - adrannau cyngor
  3. Dysgu Blwyddyn 6? Syniadau am sut i ddefnyddio'r Adnodd Llythrennedd Digidol
  4. Diweddariad am y teclyn hunan adolygu am ddim i ysgolion - 360 safe Cymru
  5. Wedi defnyddio 360 safe Cymru neu'r Adnodd Llythrennedd Digidol? Cysylltwch

 Unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau e-bostiwch ni ar esafety@swgfl.org.uk

Digwyddiadau Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach yng Nghymru

Yn ein swydd fel cydlynwyr arweiniol Canolfan Rhyngrwyd Ddiogelach y DU, gwahoddwyd y
SWGfL i fynychu'r digwyddiad Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach yn y Barri yn Ysgol Gynradd yr Holl Saint, oedd yn garedig iawn yn cynnal y digwyddiad a'i wneud yn llwyddiant. 

Wedi'i fynychu gan Ddirprwy Weinidog Technoleg a Sgiliau Julie James, sawl uwch-addysgwr a'n cyd-weithiwr Ken Corish, y plant oedd y rhai oedd yn berchen ar y dydd ac yn arwain llawer o'r gweithgareddau.

 

Ar y diwrnod, roedd disgyblion o Ysgol Gynradd yr Holl Saint ac Ysgol Gyfun Sandfields ym Mhort Talbot yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai yn ymwneud â'r thema Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach, a dangos y rhan roeddent yn ei chwarae yn creu'r ffilm #Up2Us wedi'i greu gan dros 150 o bobl ifanc ledled y DU.

 

Mae'r ffilm yn edrych ar beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am y rhyngrwyd a sut maent yn credu mai cyfrifoldeb pob un ohonom ydy gwneud y rhyngrwyd yn le gwell. Mae ein hadroddiad 'Friendship in a Digital Age' yn dangos bod 30% o rai 11-16 oed wedi cael profiad o rywun yn bod yn gas iddynt ar-lein yn y flwyddyn ddiwethaf, ond mae 3 ymhob 4 person ifanc hefyd yn credu bod ganddynt y grym i greu cymuned ar-lein fwy caredig.

 

Roedd plant o'r Holl Saint wedi paratoi ffilmiau a gweithgareddau wal i eraill fedru cyfranogi. Roedd myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Sandfields yn arwain sesiynau arbenigol ar Vine, Instagram a Snapchat.

 

Roedd y bobl ifanc hefyd wedi derbyn yr her ar y diwrnod i rannu gwên trwy gyfryngau cymdeithasol a dyfeisio ffyrdd gwych a chreadigol o rannu gwên ar-lein.

 

Ddim yn bell i ffwrdd, yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Y Barri, ymunodd ein cydweithiwr Andrew Williams â myfyrwyr o Flynyddoedd 8 a 9, y Dirprwy Gomisiynydd Plant ac Uwch-arweinydd Digidol o Lywodraeth Cymru. Roedd y myfyrwyr yn hynod o onest ac yn agored wrth drafod materion ar-lein a dysgodd pawb rywbeth o'r trafodaethau.

 

Cafodd 'Gwên Ddigidol' ei greu gan ddefnyddio cadeiriau'r neuadd a chwilio am wenau o gwmpas yr ysgol. Yn olaf, roedd cyfnewid technoleg i oedolion glywed gan fyfyrwyr yr ysgol am y teclynnau ar-lein a'r apiau maent yn eu defnyddio.

 

Dywedodd Julie James, Dirprwy Weinidog Technoleg Llywodraeth Cymru:

 

"Fel rhan o'n cefnogaeth at Ddiwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach rydym wedi trefnu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth e-ddiogelwch mewn ysgolion ledled Cymru. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Ddiogelach y DU i gynhyrchu pecynnau ysgol ddwyieithog i gefnogi ysgolion yn eu gwaith cyfredol yn y maes pwysig yma.

 

Mae'r gweithgareddau yma yn rhan o ymrwymiad cyfredol Llywodraeth Cymru tuag at ddiogelwch ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae'r parth e-Ddiogelwch ar ein platfform Hwb yn darparu cyngor ac arweiniad nid yn unig ar gyfer ein pobl ifanc ond ar gyfer eu hathrawon a'u rhieni hefyd.

 

Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno dysgu defnydd mwy diogel a chyfrifol o'r rhyngrwyd yng nghwricwlwm cynradd ac uwchradd ysgolion."

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr swyddogol o Ddiwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach. Gallem gadarnhau'n swyddogol bod Diwrnod Rhyngrwyd Ddiogelach 2016 yn cael ei gynnal ar 9fed Chwefror.

Adran cyngor Parth e-Ddiogelwch Hwb 

 

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn creu ac yn cyfoethogi'r Parth e-Ddiogelwch ar Hwbgydag adnoddau, erthyglau a gwybodaeth newydd am holl bethau e-Ddiogelwch. Bydd athrawon a staff ysgol yn darganfod ardaloedd un-pwrpas i ysgolion, rhieni a phobl ifanc. Rydym hefyd wedi creu 5 prif bryderon neu gwestiynau sydd gan bob cynulleidfa ac wedi darparu atebion neu gyngor yn ymwneud â nhw.

Er enghraifft, mae rhai o'r cwestiynau rydym yn ei ateb i athrawon yn cynnwys:

- Beth ddylwn i wneud os yw rhywun yn honni bod yn fi ar-lein?

- Sut ydw i'n siarad gyda phobl ifanc am chwarae gemau ar-lein?

- Ac ydych chi'n teimlo'n hyderus yn ymdrin â materion diogelwch ar-lein yn eich ysgol/sefydliad?

 

Rhai o'r cwestiynau rydym yn ateb gallai rhieni ei ofyn ydy:

- Beth ydw i'n gwneud os ydy fy mhlentyn yn dioddef o seibrfwlio?

- Dwi'n meddwl bod fy mhlentyn wedi gweld pornograffi ar-lein - beth ydw i'n ei wneud?

- Mae fy mhlentyn dan oed ond wedi creu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Beth ydw i am wneud?

 

I weld yr atebion ac am wybodaeth bellach a chyngor e-Ddiogelwch ewch i'r Parth e-Ddiogelwch ar Hwb.

  


Dysgu Blwyddyn 6? Syniadau am sut i ddefnyddio'r Adnodd Llythrennedd Digidol

Eich dosbarth Blwyddyn 6 - yn dechnegol maent yn fedrus, yn hyderus ac yn naturiol chwilfrydig a meiddgar. Felly sut mae posib i ni eu helpu i ddeall y peryglon yn ymwneud â siarad yn ddiogel ar-lein? Mae'r rhyngrwyd yn darparu cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau ar-lein, i chwarae'n gydweithredol, i sgwrsio, i negeseuo ac, wrth gwrs, i wneud hyn ar sawl dyfais, gan gynnwys y ffôn symudol, trwy lwybrydd teuluol, neu 3G neu 4G hyd yn oed.


 
Sawl un o'r disgyblion yn eich dosbarth Blwyddyn 6 sydd yn defnyddio gemau sydd yn caniatáu sgwrsio ar-lein? Sawl plentyn sydd yn cyfathrebu ar-lein yn ddyddiol? Sawl sydd efo ffrindiau ar-lein yn unig? Y mwyafrif! Mae'r adnoddau llythrennedd digidol ar  Hwb wedi'u dylunio i rymuso disgyblion a myfyrwyr i feddwl yn feirniadol, ymddwyn yn ddiogel, a chyfranogi'n gyfrifol yn ein byd digidol. Gyda 5 gwers unigol ar gyfer pob grwp blwyddyn o Gyfnod Sylfaen i Gyfnod allweddol 4 a thu hwnt, gallwch ddarganfod yr adnoddau sydd yn berffaith i'ch dosbarth. Pori yn ôl Cyfnod Allweddol neu Grwp Blwyddyn, ar gyfer gwersi trawsgwricwlaidd sydd yn cyfeirio at bynciau llythrennedd digidol a dinasyddiaeth mewn ffordd addas i oedran.


 
Ar gyfer Blwyddyn 6, mae Siarad yn Ddiogel Ar-lein yn caniatáu i ddisgyblion ddysgu bod y rhyngrwyd yn le gwych i ddatblygu perthnasau gwobrwyol. Maent yn dysgu bod rhaid bod yn ofalus gyda ffrindiau ar-lein yn unig a byth i amlygu gwybodaeth breifat heb ofyn i riant neu oedolyn cyfrifol am ganiatâd. Mae'r gan y wers, sydd am ddim i'w lawrlwytho, adnoddau ychwanegol gwych, gan gynnwys clipiau fideo, a gweithgareddau.

Gallwch fynd yn syth at yr adnoddau ar  Hwb.

Diweddariad am y teclyn hunan adolygu am ddim i ysgolion - 360 safe Cymru 

 

Cafodd y teclyn Hunan Adolygu e-Ddiogelwch 
360 safe Cymru ei lansio fis Hydref 2014. Yn seiliedig ar y teclyn aml wobrwyol sydd wedi bod mewn defnydd yn y DU ers 2009, mae'r teclyn yn caniatáu ysgolion i adolygu eu darpariaeth e-ddiogelwch, cynhyrchu cynlluniau gweithredu a chael mynediad i amrywiaeth eang o adnoddau perthnasol. Mae'r teclyn newydd ar gael yn yr iaith Gymraeg a Saesneg a gall cael mynediad iddo trwy fewngofnodi sengl ar Hwb.

 

Er mwyn cofrestru i ddefnyddio'r teclyn bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Hwb a chlicio ar y ddolen i 360 safe Cymru ar dudalen cartref Hwb. Bydd yn gofyn am ychydig fanylion defnyddiwr ac yna gall gychwyn ar eich adolygiad.

 

Mae yna 28 gwahanol agwedd byddwch chi'n adolygu ar raddfa 5 lefel - yn dewis y disgrifiad lefel sydd yn gweddu eich darpariaeth orau. Bydd y teclyn yn awgrymu beth sydd yn rhaid ei wneud i symud tuag at y lefel nesaf. Mae ysgolion sydd yn cyrraedd y lefelau meincnod gofynnol yn gallu gwneud cais am y Marc e-Ddioglewch sy'n cael ei adnabod yn genedlaethol.

 

Rydym wedi gwirioni gyda'r ymateb i'r teclyn 360 gan fod 400 o ysgolion wedi cofrestru bellach. Mae'r adborth gan ddefnyddwyr yn gadarnhaol iawn. Mae dwy ysgol - Ysgol Gynradd Cadoxton ac Ysgol Gynradd Ynys Y Barri, y ddau ym Mro Morgannwg, wedi cael eu gwobrwyo gyda'r Marc e-Ddiogelwch.


 

Yn eu hadborth, dywedodd Ysgol Gynradd Ynys y Barri: "Mae'r teclyn hunan asesu a'r broses gyfan yn brofiad aruthrol ac yn creu canolbwynt ac ysgogiad i'r ysgol gyfan i fod yn e-ddiogel yn y ffordd gorau bosib. Diolch i chi am arweiniad a chefnogaeth a phrofiad positif".

 

Os hoffech arweiniad pellach neu gefnogaeth defnyddiwch yr e-bost "cysylltwch â ni" yn y teclyn 360 neu e-bostio ni ar 360safe@swgfl.org.uk

Wedi defnyddio ein hadnoddau e-Ddiogelwch newydd? Cysylltwch!
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan ysgolion sydd wedi defnyddio ein dau declyn e-Ddiogelwch newydd i ysgolion yng Nghymru. Felly os ydych chi wedi dechrau defnyddio 360 safe Cymru i gwblhau hunan-adolygiad o'ch polisïau ac ymarferiadau e-Ddiogelwch, neu os ydych chi wedi defnyddio cynllun gwers neu weithgaredd o'n Hadnodd Llythrennedd Digidol, hoffwn glywed gennych chi! E-bostiwch ar esafety@swgfl.org.uk

Dilynwch ni ar Twitter @eSafety_Wales 
 
Cofiwch yrru hwn ymlaen i eraill a chofrestru os gwelwch yn dda!

Yn gywir
Tîm E-ddiogelwch South West Grid for Learning